3 Bed Detached House For Sale

Dolwyddelan

LL25 0JD

£375,000

Added 22 May 2025

Property Details

Property Type

Detached House

Bedrooms

3

Location

LL25

Description

English Below

“Y cartref perffaith i rhywun sy’n gwerthfawrogi hanes a phensaerniaeth arbennig - Mae sgop yma i gadw rhai anifeiliaid a thyfu cynnyrch yn y gerddi swmpus.”

  • Cartref Gradd II rhestredig arbennig iawn, llawn hanes a chymeriad Cymreig

  • Tair ystafell wely

  • Llawn dop o nodweddion gwreiddiol

  • Wedi’i leoli mewn ardal wledig dawel gyda golygfeydd eang o gefn gwlad

  • Gardd helaeth

  • Man parcio ar gyfer tri car

  • Eiddo freehold (perchnogaeth lwyr)

  • Wedi’i gysylltu â d r a thrydan y prif gyflenwad

  • System garthffosiaeth breifat trwy danc septig

  • Cysylltiad band eang drwy gopr (ADSL)

  • Ddim yn rhan o gadwyn gwerthu

  • Band Treth Cyngor D

  • EPC - F

Wedi'i leoli ychydig islaw Castell Dolwyddelan ac yng nghysgod Moel Siabod, mae 1 Tan y Castell yn rhan o ffermdy o’r 17eg ganrif sy’n rhan annatod o stori leol Eryri.

Roedd y t ’n gartref i John Jones, un o bregethwyr mwyaf dylanwadol Cymru. Mae cofeb Gradd II iddo ef a’i frodyr yn sefyll wrth y fynedfa — marc distaw ar y pwysigrwydd mae’r lle hwn wedi’i ddal yng nghalon y gymuned. Mae’r adeilad ei hun wedi’i restru’n Gradd II* am ei werth pensaernïol a hanesyddol — yn enghraifft brin o bensaernïaeth leol.

Wedi’i drefnu bellach fel cartref tri llofft, mae’r lle wedi’i gynnal yn ofalus, gyda llawer o’r deunyddiau gwreiddiol a manylion traddodiadol yn aros yn eu lle. Mae lloriau llechi a phren yn rhedeg drwy’r t , gyda trawstiau noeth a thanllwyth coed yn angori’r brif ystafell fyw. Mae’r cynllun yn cynnwys tri llofft, dwy ystafell ymolchi, cegin gynnes a thraddodiadol, ac ystafell fyw sy’n agor i olygfeydd o’r goedwig a’r caeau cyfagos.

Mae hwn yn gartref i rywun sy’n cael ei ddenu at lefydd â chynhesrwydd ac enaid — lle i roi gwreiddiau, magu teulu, neu fyw’n agosach at rythmau naturiol. Tu allan, mae nant yn rhedeg ar hyd ffîn y tir, ac mae adar megis gwenoliaid, tylluanod, a hyd yn oed dyfrgwn yn ymwelwyr cyson. Mae’r t yn rhan o blot a rennir, gyda theimlad hael ac agored dros y dyffryn.

Yn fwy na chartref, mae 1 Tan y Castell yn cynnig cyfle i fod yn rhan o stori barhaus y lle hwn — i fyw’n dawel ynddo, ac i’w siapio’n dyner fel ac y mynnwch.

“Mae Dolwyddelan yn gymuned glos ac agos atoch. Cyfleusterau ar gael ar stepen y drws a bwrlwm o weithgareddau cymunedol megis carnifal, treialon cwn defaid, tafarn cymunedol a dathliadau'r Nadolig yn yr hen Eglwys.”

Y Daith

Wrth gamu i mewn i’r gegin, daw’r teimlad o le sydd wedi aros yn ei le dros amser. Mae bwrdd bwyd mawr yng nghanol y gofod, a lle tân enfawr — a arferai fod yn galon coginio’r t — yn dal y sylw’n syth. Mae’r awyrgylch yn syml, cynnes, ac yn llawn atgof — cegin sy’n dal hanes. I’r ochr, mewn cilfach fach, mae’r elfennau ymarferol: peiriannau golchi, storfa, a lle posib ar gyfer pantri bach.

O’r gegin, mae coridor cul yn arwain at yr ystafell fyw — lle cyfeillgar ei faint, gyda lle tân trawiadol bron yn llenwi’r wal gyfan. Mae’r gofod hwn wedi’i lunio’n fwy gan straeon a sgwrs nag unrhyw sgrîn. Mae drws eglwysig yn arwain o’r ystafell fyw allan i’r ardd, gan gysylltu’r tu mewn a’r tu allan yn y ffordd fwyaf naturiol.

Wrth fynd i fyny’r grisiau, mae’r waliau trwchus, anwastad yn adrodd hanes y t . Mae’r brif lofft yn edrych dros yr ardd, gyda ystafell ymolchi en-suite. Ar ben y grisiau, ceir ystafell ymolchi fach, a dwy lofft ychwanegol — pob un â’i chymeriad ei hun ac olygfeydd gwahanol dros y tir cyfagos.

Gofod Allanol

Mae’r ardd tua 0.17 acer — lawnt wyrdd feddal sy’n raddol ddisgyn o’r t . Wrth edrych nôl o waelod yr ardd, mae’r adeilad yn sefyll yn urddasol ar ben y llethr, wedi’i fframio gan hen goed a llwyni sydd fel pe baen nhw wedi bod yno erioed. Mae nant fach yn rhedeg ar hyd ymyl yr ardd, gan ychwanegu sain feddylgar o dd r yn symud.

Y tu blaen i’r t , mae ardal fach lle mae gan y bwthyn cyfagos hawl tramwy — trefniant hirsefydlog sy’n caniatáu mynediad ar hyd y llwybr pan fo angen. Mae hwn yn drefniant ymarferol ac arferol mewn eiddo gwledig h n, lle mae hanesion a gofod yn aml wedi’u rhannu dros genedlaethau.

Mae'r ardal tu allan yn teimlo'n dawel, yn agored ac yn gysylltiedig - nid yn unig i natur, ond i'r t ei hun.

Perfformiad Amgylcheddol

Nid oes gan y t system wresogi ganolog ar hyn o bryd, er bod modd ei gosod gyda’r caniatâd priodol. Mae’r perchnogion presennol yn defnyddio gwresogyddion trydan. Gan fod yr adeilad wedi’i restru’n Gradd II*, mae’r ffenestri’n un-haen, gan gynnal cymeriad hanesyddol y t .


English

"The perfect home for someone who values history and unique architecture – with scope to keep some animals and grow produce in the generous gardens."

  • A very special Grade II listed home, full of Welsh history and character

  • Three bedrooms

  • Packed with original features

  • Located in a peaceful rural area with far-reaching countryside views

  • Generous garden

  • Parking for three vehicles

  • Freehold property

  • Connected to mains water and electricity

  • Private drainage via a septic tank

  • Broadband connection via copper (ADSL)

  • No chain

  • Council Tax Band D

  • EPC - F

Set just below Dolwyddelan Castle and in the shadow of Moel Siabod, 1 Tan y Castell forms part of a 17th-century farmhouse with deep roots in the local story of Eryri.

The house was once home to John Jones, one of the most influential preachers in Welsh history. A Grade II listed monument to him and his brothers stands at the entrance, a quiet marker of the significance this place holds in the life of the community. The building itself is Grade II* listed for its architectural and historic interest — recognised as a rare example of local vernacular tradition.

Now arranged as a three-bedroom home, the space has been carefully maintained, with many of its original materials and details left intact. Slate and timber flooring run throughout, with exposed beams and a wood-burning stove anchoring the main living space. The layout includes three bedrooms, two bathrooms, a warm and traditional kitchen, and a living room that opens onto views of surrounding woodland and fields.

This is a house for those drawn to places with soul — somewhere to put down roots, raise a family, or live in closer rhythm with nature. Outside, a stream traces the boundary, and the grounds are visited by swallows, owls, and even otters. The property is part of a shared plot, with a generous sense of space and an open view across the valley.

More than a home, 1 Tan y Castell offers the chance to be part of the ongoing story of this place — to live quietly within it, and to shape it gently in return.

"Dolwyddelan is a close-knit and welcoming community. Local amenities are right on your doorstep, along with a vibrant mix of community activities such as the carnival, sheepdog trials, the community-run pub, and Christmas celebrations in the old church."

The Tour

Stepping into the kitchen, you're met with a space that feels quietly rooted in the past. A large dining table sits at the centre, framed by a large hearth that once served as the cooking heart of the home. The atmosphere is simple, warm, and deeply familiar — a kitchen that holds memory. Tucked into a small adjoining nook are the more practical elements: laundry appliances, storage, and the potential for a walk-in pantry.

A narrow hallway leads to the living room — intimate in scale, with another remarkable fireplace stretching almost the full width of the room. The eye is naturally drawn here; a space shaped more by stories and conversation than screens. A weathered church door leads from the living room out into the garden, connecting indoors and out in a gentle way.

Upstairs, thick walls and uneven surfaces tell of the building’s age, with the passage of time visible in every curve. The main bedroom has views over the garden and includes an en suite bathroom. At the top of the stairs, a small WC serves the floor, along with two further bedrooms — each full of character, each with its own outlook onto the surrounding greenery.

Exterior Space

The garden stretches to around 0.17 acres — a soft green lawn that slopes gently away from the house. From the bottom, the building sits proud at the top of the rise, framed by trees and shrubs that feel as though they’ve always been there. A small stream runs alongside the edge of the garden, bringing the constant, quiet presence of water.

At the front of the house, there is a small area over which the neighbouring cottage has a right of way — a long-standing arrangement that simply allows access across the front path when needed. It’s an established and practical easement, typical of older rural properties where shared histories often shape how homes sit side by side.

The outside area feels calm, open and in harmony - not only with nature, but with the house itself.

Environmental Performance

The house does not currently have central heating, though it could be installed subject to appropriate consents. The current owners use electric heaters. As a Grade II* listed building, the windows remain single-glazed in keeping with the property’s historic fabric.


EPC Rating: F

Location

Map showing LL25 0JD

Nearby Properties

Disclaimer: Property descriptions, images, and related information displayed on this page are aggregated from publicly available sources across the web and presented for informational purposes only. While we strive for accuracy, home.co.uk cannot guarantee that all details are current or complete. This information is provided as a guide only and should not replace professional property advice. We strongly recommend contacting Catra directly to verify availability, arrange viewings, and obtain comprehensive property documentation.

Listed by

Catra

Get Move Ready

Fee-Free mortgage advice to help you secure your dream home

Compare rates from leading UK lenders

Expert guidance throughout the process

No obligation, completely free service

Fee-Free Mortgage Advice
Powered by homemove.com

Check broadband on this home

See the speeds and deals available for LL25 0JD