0 Bed Detached House For Sale
Llanfairtalhaiarn
LL22 8YP
Added 22 Aug 2025
Property Details
Property Type
Detached House
Bedrooms
0
Location
LL22
Description
Cyfle prin i brynu fferm weithredol amlbwrpas nid nepell o bentref dymunol Llanfair Talhaiarn.
Gwerthir y daliad ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
At ei gilydd, mae’n 75 o erwau.
Y cyfan ar werth drwy dendr anffurfiol.
Tendrau i’w gyflwyno erbyn hanner dydd, dydd Gwener 3ydd Hydref 2025.
Lleoliad
Saif Fferm No.1 Plas Newydd gerllaw pentref gwledig Llanfairtalhaiarn yn Sir Conwy.
Mae’r daliad mewn ardal wledig ddymunol ac mae lôn wledig yn mynd ato.
Mae tref farchnad Abergele 5 milltir o’r daliad, Bae Colwyn 9 milltir i ffwrdd a Llandudno 15 milltir i ffwrdd.
Amwynderau
Ceir siop a Swyddfa Bost ym mhentref Llanfair Talhaiarn yn ogystal ag ysgol gynradd, tafarndai a chaffi. Mae Abergele, Bae Colwyn a Llandudno’n cynnig amrywiaeth fwy helaeth o wasanaethau, gan gynnwys siopau lleol a chenedlaethol, ysgolion uwchradd preifat a chyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus.
T Fferm
Saif y t fferm ger y ffordd ac mae’n annedd sengl o frics â tho llechi. Adeiladwyd estyniad i greu mwy o le ar y llawr gwaelod.
Ar y llawr gwaelod mae ystafell fyw, cegin ac ystafell fwyta / fyw, ac mae tair o ystafelloedd gwely ac ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf. Mae angen moderneiddio’r eiddo, ond mae’r cynllun mewnol yn rhoi digon o le ar gyfer lle byw ymarferol, ac felly mae cyfle i’r prynwr greu t fferm deniadol sy’n addas ar gyfer y daliad.
Adeiladau
Ceir amryw adeiladau amaethyddol cyfoes a thraddodiadol ar y daliad sy’n addas ar gyfer cadw cymysgedd o wartheg a defaid. Saif y rhain o amgylch dau fuarth a cheir cysylltiadau da rhwng yr amryw rannau o’r fferm.
Y prif strwythur yw adeilad amaethyddol cyffredinol, cyfoes a ddefnyddiwyd fel cwt wyna yn y gorffennol ond y gellid ei drosi at amryw ddibenion eraill, gan gynnwys beudy ar gyfer gwartheg. Ceir amryw adeiladau amaethyddol cyffredinol eraill sy’n addas i gadw da byw, yn ogystal ag adeiladau traddodiadol o frics a cherrig sy’n addas fel storfeydd.
Mae yno storfa slyri goncrit a mwy o le i gadw slyri dan lawr delltog ar y buarth.
Tir
Ceir tua 73 o erwau o dir amaeth y gellid mynd at o’r buarth a’r lôn gyhoeddus sy’n mynd ar hyd ffin orllewinol y daliad. Mae’r tir wedi’i rannu’n nifer o ddarnau o faint da ac yn bennaf yn wastad neu ar lethr ysgafn.
Mae’r tir mewn cyflwr da ac yn addas fel tir pori, yn ogystal â silwair neu gnydau âr. Mae’r daliad ar dir gweddol uchel gyda golygfa braf ac mae ffens o amgylch yr holl ffiniau i gadw da byw. Daw prif gyflenwad dr i’r daliad o’r buarth.
Dull Gwerthu
Mae’r eiddo ar werth drwy DENDR ANFFURFIOL.
Deiliadaeth a Meddiant
Rhydd-ddaliad yr eiddo sydd ar werth ac mae’n wag cyn ei feddiannu.
Cynllun y Taliad Sylfaenol
Mae’r daliad wedi’i gofrestru â Thaliadau Gwledig Cymru. Nid oes unrhyw fuddion drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol wedi’u cynnwys yn y gwerthiant.
Mae gwybodaeth fanylach ar gael gan yr asiant gwerthu, ond byddai’n ddoeth i ddarpar brynwyr geisio cyngor annibynnol ynghylch y posibilrwydd o hawlio Taliad Sylfaenol.
Statws Rhestredig
Mae un o’r cytiau cerrig traddodiadol yn adeilad rhestredig Gradd II*. Mae mwy o fanylion ar gael gan yr asiant gwerthu, Carter Jonas.
Fforddfreintiau, Hawddfreintiau a Hawliau Tramwy
Gwerthir yr eiddo yn amodol ar yr holl fforddfreintiau, hawddfreintiau a hawliau tramwy a gyda buddion y rheiny, boed y manylion hyn yn eu crybwyll neu beidio.
Iechyd a Diogelwch
Oherwydd y peryglon posib ar fferm da byw, gofynnwn ichi fod mor wyliadwrus â phosib wrth gynnal eich archwiliad, er eich diogelwch
personol eich hun.
Sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni
Mae gan ffermdy No.1 Plas Newydd sgôr perfformiad ynni G (7).
Awdurdod Lleol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Gweld yr Eiddo
Mae’n rhaid trefnu a chadarnhau apwyntiad ag asiant y gwerthwr i weld yr eiddo, drwy ffonio .
Cyfarwyddiadau
O bentref Llanfairtalhaiarn, ewch ar hyd yr A548 i’r gogledd tuag Abergele. Ar ôl hanner milltir, trowch yn llym i’r chwith i fyny’r allt ac ewch ar hyd y lôn wledig am tua hanner milltir. Fe ewch chi heibio mynedfa No.2 Fferm Plas Newydd nes bod modd troi’n llym i’r dde i fynd at y ffermdy a’r fynedfa i’r buarth.
What3words
// chopper.sideburns.factory
Location
Nearby Properties
Disclaimer: Property descriptions, images, and related information displayed on this page are aggregated from publicly available sources across the web and presented for informational purposes only. While we strive for accuracy, home.co.uk cannot guarantee that all details are current or complete. This information is provided as a guide only and should not replace professional property advice. We strongly recommend contacting Carter Jonas LLP - Rural directly to verify availability, arrange viewings, and obtain comprehensive property documentation.
Listed by
Carter Jonas LLP - Rural
Quick Actions
Mortgage Advice
Get move ready. Fee-Free mortgage advice to help you secure your dream home
Compare rates from leading UK lenders
Expert guidance throughout the process
No obligation, completely free service
Check broadband on this home
See the speeds and deals available for LL22 8YP